Ïã¸ÛÁùºÏ²ÊÍø

En

Timau Chwaraeon

Yn Ïã¸ÛÁùºÏ²ÊÍø, credwn fod chwaraeon yn rhan hanfodol o addysg gyflawn, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r profiad chwaraeon gorau posib i’n myfyrwyr. Mae ein campysau yn gartref i ystod eang o chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed, rygbi a phêl-rwyd.

Mae rhaglen chwaraeon yn mynd y tu hwnt i weithgarwch corfforol – mae’n dysgu sgiliau arwain, yn meithrin perthnasoedd, ac yn annog myfyrwyr i weithio fel tîm.

Pan fyddech ymuno ag un o’n timau chwaraeon, byddwch yn ymuno â chymuned o bobl sy’n rhannu eich angerdd dros chwaraeon. Bydd yn gyfle i chi wthio’ch hun i uchelfannau newydd, yn feddyliol ac yn gorfforol, a chewch gyfle i ddatblygu sgiliau a fydd yn eich gwasanaethu’n dda yn eich gyrfa a’ch bywyd personol yn y dyfodol.

Cabinet tlysau rydyn ni'n falch ohono

Mae ein myfyrwyr ymhlith y gorau yn y DU mewn amrywiaeth eang o chwaraeon, o chwaraeon tîm fel tenis a phêl-rwyd i chwaraeon unigol fel trampolinio a rhedeg traws gwlad. Mae ein timau’n cymryd rhan ym Mhencampwriaethau Chwaraeon Colegau Prydain ac yn dychwelyd gyda medalau bob blwyddyn.

Dysgwch am ein hacademïau chwaraeon llwyddiannus

Mae Campws Crosskeys yn gartref i’n Hacademïau chwaraeon llwyddiannus, a gynlluniwyd i’ch helpu i ddod yr athletwr gorau y gallwch fod yn y gamp o’ch dewis. Mae gennym Academïau rygbi, pêl-rwyd a phêl-droed.

Academi Rygbi

Mae Campws Crosskeys yn gartref i Academi Rygbi Iau’r Dreigiau lle gall myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau llawn amser ar unrhyw gampws Ïã¸ÛÁùºÏ²ÊÍø —naill ai yn ymwneud â chwaraeon, yn gyrsiau Safon Uwch, neu gyrsiau galwedigaethol eraill — elwa hefyd o gael 16 awr o hyfforddiant penodol yr wythnos gan hyfforddwyr y Dreigiau, fel rhan o raglen ddatblygu ddwy flynedd ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Darllenwch ragor am Academi Rygbi Iau’r Dreigiau.

Darperir hefyd Academi rygbi merched Ïã¸ÛÁùºÏ²ÊÍø ar Gampws Crosskeys, lle mae gan ddysgwyr fynediad at 14 awr o rygbi fel rhan o’u hamserlenni unigol. Mae’r tîm yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau ledled Cymru, gan gynnwys 7 Bob Ochr Colegau Cymru, 7 Bob Ochr URC yr Urdd, ac Ysgolion a Cholegau Cenedlaethol a Rhanbarthol yr URC. Ïã¸ÛÁùºÏ²ÊÍø yw’r unig goleg yng Nghymru sy’n cystadlu yng Nghynghrair Perfformiad ACE Cymdeithas y Colegau (AOC), sef cystadleuaeth ar lefel elît yn erbyn Colegau Lloegr sy’n gysylltiedig â thimau proffesiynol.

Cyflawniadau 2022/2023

  • 4 chwaraewr yn cael eu dewis i chwarae dros dîm dan 18 Cymru
  • 1 chwaraewr yn cael ei ddewis i chwarae dros dîm 7 Bob Ochr Cymru

Dywedodd Savannah Picton-Powell, Cymru dan 18:Ìý

“Ers bod yn rhan o’r Academi, rwyf wedi gallu ennill mwy o brofiad fel chwaraewr a gwella fy null chwarae cyffredinol. Rwyf wedi mwynhau bod yn rhan o grŵp arbennig yn fawr iawn. Roedd chwarae rygbi ochr yn ochr â fy addysg wedi fy ysgogi i weithio’n galetach yn yr ystafell ddosbarth ac ar y cae. Roeddwn i’n gwybod bod rhaid i mi weithio’n galed i gael fy newis ar gyfer y gemau bob wythnos. Eleni, fel Academi, gwnaethom gymryd rhan yng nghynghrair perfformiad ACE lle cawsom fwy o gysylltiad â lefel uwch o gystadleuaeth. Fe wnaeth y gwaith caled a wnaeth y tîm drwy gydol y flwyddyn ein helpu i gael tymor llwyddiannus iawn — yn fwyaf nodedig, dod yn bencampwyr 7 bob ochr colegau Cymru, ennill 7 bob ochr yr Urdd a hefyd ennill rownd derfynol Ysgolion a Cholegau Cenedlaethol Merched dan 18 oed Undeb Rygbi Cymru a gynhaliwyd yn Stadiwm y Principality.Ìý

Academi Bêl-droed

Mae 64 o chwaraewyr cofrestredig yn Academi Bêl-droed Ïã¸ÛÁùºÏ²ÊÍø ar Gampws Crosskeys, gyda thimau ar gyfer dynion a menywod. Mae’r Academi yn rhan o amserlen y coleg i alluogi myfyrwyr i gael mynediad at y gamp ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Mae’r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant tîm, sesiynau seiliedig ar egwyddorion, arferion cyffredinol a phenodol, hyfforddiant unigol, hyfforddiant gol geidwad, paratoi ar gyfer gemau, sesiynau cryfder a chyflyru, systemau o dactegau, arferion technegol, a dadansoddi fideo. Mae ein gemau cartref yn cael eu chwarae yn Stadiwm Cwmbrân bob brynhawn dydd Mercher.

Mae Academi Bêl-droed Ïã¸ÛÁùºÏ²ÊÍø yn chwarae yng Nghynghrair Colegau Cymru — Categori 2, a hi yw ddeiliad presennol Cwpan Ysgolion Gwent dan 19 oed a Chwpan dan 18 Ysgolion Casnewydd. Mae’r Academi Pêl-droed Merched yn cystadlu yn Nhwrnamaint Cenedlaethol 7 Bob Ochr Colegau Cymru.

Cyflawniadau 2022/2023

  • Cynrychiolodd Callum Chivers FA Ysgolion Cymru a cholegau Cymru 22-23
  • Arwyddodd chwaraewr Academi Pêl-droed Ïã¸ÛÁùºÏ²ÊÍø, Lewis Webb, gytundeb pêl-droed proffesiynol gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn 2020, ac mae Lewis wedi cynrychioli Cymru o dan 21 oed yn Rowndiau Rhagbrofol Pencampwriaeth Ewro 22-23

Academi Pêl-rwyd

Cynhelir ymarfer Academi Pêl-rwyd Ïã¸ÛÁùºÏ²ÊÍø bob bore Llun ar Gampws Crosskeys, ac yna gemau cynghrair bob prynhawn dydd Mercher. Waeth beth eu campws a chwrs, mae croeso i fyfyrwyr gymryd rhan yn yr Academi, sy’n cynnwys rhaglen hyfforddi sy’n cwmpasu cryfder a chyflyru, adeiladu tîm, sgiliau pêl, setiau o ddulliau chwarae, tactegau a thechnegau, gosod nodau, a sesiynau dadansoddi fideo.

Ar hyn o bryd mae gennym ddau dîm pêl-rwyd sy’n chwarae’n gystadleuol, gyda’n tîm cyntaf yn cystadlu mewn cystadlaethau cynghrair a’n hail dîm yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn colegau eraill yng Nghymru. Mae myfyrwyr o dimau pêl-rwyd dan 18 Ïã¸ÛÁùºÏ²ÊÍø De-ddwyrain Cymru a thimau cynrychioliadol Colegau Cymru AOC yn chwarae gartref ac oddi cartref bob blwyddyn. Yn ogystal, maent yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Ysgolion De-ddwyrain Cymru.

Cyflawniadau 2022/2023

  • Enillwyr ysgolion De-ddwyrain Cymru
  • Ail le Chwaraeon Colegau Cymru
  • Cynrychiolodd chwe chwaraewr garfan Colegau Cymru
  • Cynrychiolodd pedwar chwaraewr Academi Ranbarthol Bêl-rwyd Cymru
  • Roedd un chwaraewr yn gapten ar dîm dan 17 Cymru

P’un a ydych chi’n athletwr profiadol neu’n edrych i roi cynnig ar rywbeth newydd, mae gennym raglen sy’n addas ar eich cyfer!

Pedair blynedd o enill
play